Tŷ Hastings |
|
Hastings House |
Llys Fitzalan |
|
Fitzalan Court |
Caerdydd |
|
Cardiff |
CF24 0BL |
|
CF24 0BL |
|
|
|
E-bost: |
|
E-mail: |
cffdl.cymru@llyw.cymru |
( (029) 2046 4819 |
ldbc.wales@gov.wales |
www.cffd.llyw.cymru |
Ffacs/Fax (029) 2046 4823 |
www.ldbc.gov.wales |
Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
9 Tachwedd 2018
Ysgrifennaf ar ran Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i gyfrannu at ymgynghoriad y Pwyllgor i gynorthwyo â’i ymchwiliad i’r cyd-destun deddfwriaethol, polisi a chyd-destun ehangach o gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg.
Er ei greu yn wreiddiol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1974, mae’r Comisiwn wedi cefnogi’r Gymraeg drwy sicrhau bod ei ddogfennau cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg. Dros y blynyddoedd, mae integreiddio ystyriaeth o’r Gymraeg i waith y Comisiwn wedi cynyddu, yn enwedig ar ôl cyflwyno Cynllun Iaith Gymraeg cyntaf y Comisiwn ym 1998.
Pan gyhoeddwyd y rhestr lawn o Safonau’r Gymraeg o ganlyniad i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, cododd y Comisiwn bryderon ynghylch goblygiadau cymhwyso’r holl safonau i’r sefydliad o ran adnoddau. Roedd y Comisiwn yn falch, felly, fod y safonau penodol a gymhwysodd Comisiynydd y Gymraeg i’r Comisiwn yn ystyried maint a chylch gwaith y sefydliad. Er enghraifft, ni chafodd y safonau yn ymwneud â hyrwyddo’r Gymraeg eu cymhwyso i’r Comisiwn.
Nid oedd y Comisiwn yn y gyfran gyntaf o gyrff i gymhwyso’r safonau, ac fe wnaeth dysgu o’u profiadau alluogi’r Comisiwn i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn a fyddai’n ofynnol. Golygodd hynny, a’r ethos hanesyddol o fewn y Comisiwn mewn perthynas â’r Gymraeg, fod y Comisiwn mewn sefyllfa gadarnach o lawer i fodloni’r safonau gofynnol nag a allent fod fel arall.
Er bod angen rhywfaint o waith a chost ychwanegol i sefydlu bod y polisïau a’r gweithdrefnau priodol ar gyfer gweithredu’r safonau ar waith, cadwyd y llwyth gwaith a’r costau o fewn cyllideb y Comisiwn. Mae’r llwyth gwaith a’r costau dilynol yn sgil cynnal y safonau wedi bod yn fach hyd yma.
Yr unig anhawster y mae’r Comisiwn wedi’i gael yw penodi niferoedd digonol o staff o fewn yr Ysgrifenyddiaeth â gallu yn y Gymraeg. A hyn er gwaethaf ein hymdrechion gorau i ddenu ymgeiswyr â’r sgiliau priodol a darparu hyfforddiant yn y Gymraeg i aelodau staff presennol. Mae’r prinder sgiliau Cymraeg hwn yn y swyddfa wedi bod yn her ar adegau ac mae’n golygu bod risg barhaus i ymdrechion y Comisiwn i fodloni ei Safonau Cymraeg.
O ran barnu pa mor effeithiol fu’r ddeddfwriaeth ar safonau o ran gwella a chynyddu mynediad at wasanaethau Cymraeg o safbwynt y Comisiwn, mae’n anodd ei fesur. Yn sicr, mae’r Comisiwn wedi gwneud darpariaethau ychwanegol o ganlyniad i gymhwyso’r safonau, ond ein rhanddeiliaid a Chomisiynydd y Gymraeg sydd i farnu pa mor effeithiol fu’r rhain. Mae cael safonau clir i asesu yn eu herbyn yn ei gwneud hi’n haws i randdeiliaid ddwyn y Comisiwn i gyfrif, ac os oes angen, gwneud cwyn briodol.
Roedd y Comisiwn yn bryderus ar y cychwyn y byddai’r broses ar gyfer pennu dirwyon am beidio â bodloni safonau a bennwyd yn y ddeddfwriaeth yn arwain at gyfundrefn o gosbi na fyddai’n un fuddiol i hyrwyddo’r Gymraeg. Ym mhrofiad y Comisiwn, fodd bynnag, nid felly y bu hi, gan fod ymagwedd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg hyd yma wedi bod yn rhesymol, cymesur a chydweithredol tuag at gymhwyso’r Safonau. Mae’r Comisiwn o’r fan fod ymagwedd o’r fath yn fwy ffafriol i hyrwyddo’r Gymraeg na phe byddai cyfundrefn ‘enwi a chodi cywilydd’ uniongyrchol ar waith.
Ar ran y Comisiwn, hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor am y cyfle hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.
Yr eiddoch yn gywir
Steve Halsall
Prif Weithredwr